P-05-853 Na i gau Cyffordd 41 o gwbl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Carol Clement - Williams, ar ôl casglu 473 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod unrhyw gynnig i cau cyffordd 41 yr M4.
Mae adroddiad gan WSP i Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018, sy'n ystyried mesurau ar gyfer lleihau nitrogen deuocsid ar rwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cynnig i gau ffordd ymuno orllewinol cyffordd 41 fel modd o leihau allyriadau ochr y ffordd ar yr M4 rhwng cyffordd 41 a chyffordd 42. Yr unig effaith a gaiff hyn fydd cynyddu allyriadau nitrogen deuocsid ar ffyrdd lleol a chael mwy o effaith ar bobl leol, yn enwedig plant.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Aberafan
· Gorllewin De Cymru